{"product_id":"cranogwen","title":"Cranogwen","description":"Yn oes Fictoria, ystyriwyd menywod yn anaddas ac anabl ar gyfer pob arweinyddiaeth gyhoeddus a deallusol. Ond llwyddodd Cranogwen, sef Sarah Jane Rees (1839–1916) o Langrannog, i ennill parch ac enwogrwydd fel bardd, darlithydd, golygydd, pregethwraig, dirwestwraig – ac ysbrydolwraig to newydd o awduresau a merched cyhoeddus. Mae’r gyfrol hon yn dilyn ei thrywydd er mwyn deall pam a sut y cododd Cranogwen, benyw ddibriod o gefndir gwerinol, i’r fath fri a dylanwad ymhlith Cymry ei hoes. Teflir goleuni newydd hefyd ar ei bywyd carwriaethol cyfunrywiol, a’i syniadau arloesol ynghylch rhywedd.\n\n\nCyhoeddwyd cyfrolau bywgraffiadol ar Cranogwen ym 1932 a 1981, ond oddi ar hynny mae twf y mudiad ffeminyddol wedi ysgogi llawer astudiaeth (ar awduron benywaidd a lesbiaid y bedwaredd ganrif ar bymtheg, er enghraifft, ac ar wragedd mewn cymunedau morwrol) sy’n berthnasol iawn i’w hanes. Yng ngoleuni’r holl ddeunydd ychwanegol hyn, ceir yn y gyfrol hon ddarlun newydd o’i bywyd a’i dylanwad.","brand":"University of Wales Press","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":54224980541784,"sku":"9781837720255","price":25.99,"currency_code":"EUR","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0278\/1295\/4195\/files\/9781837720255.jpg?v=1778508022","url":"https:\/\/agendabookshop.com\/products\/cranogwen","provider":"Agenda Bookshop","version":"1.0","type":"link"}