{"product_id":"credoaur-cymry","title":"Credoau'r Cymry","description":"Trwy driniaeth wreiddiol a gafaelgar o rai o ffigyrau adnabyddus Cymru, mae Huw L. Williams yn amlygu nifer o'n credoau fel cenedl, sydd wedi profi'n ddylanwadol yng Nghymru a thu hwnt.  Cyflwynir trafodaethau gwleidyddol, moesol a diwinyddol trwy ffurf ymddiddanion dychmygol, gyda sylwebaeth athronyddol ar elfennau canolog yr athrawiaethau hynny. Ymysg y sawl sy'n amlwg yn y gyfrol y mae Glyn Dwr, Robert Owen, Lady Llanover a Henry Richard, gyda'u syniadau pwysicaf wedi'u cyflwyno ar ffurf ymgom difyr sy'n cynnig cyflwyniad hygyrch i'r darllenydd. Yn dilyn pob ymgom, daw dadansoddiad o'r syniadau hynny i roi cyfrif trwyadl o ambell gysyniad a gosod cwestiynau gerbron ynglyn a grym a dilysrwydd y gwahanol gredoau. Pwysleisir yn arbennig y cysylltiadau anwahanadwy gyda thueddiadau deallusol ehangach Ewrop a'r modd y mae syniadaeth yng Nghymru wedi dylanwadu, ac wedi'i ddylanwadu gan, y cyd-destun ehangach. Ymhlyg yn y driniaeth yma o syniadaeth Gymreig ceir ymgais i amlygu sut y mae ystyriaethau athronyddol ynghlwm yn ein bywyd cyfunol, yn ogystal ag awgrym bod yna hanes syniadau neilltuol yn perthyn i Gymru.\nDyma roi sylw priodol felly i sylwedd athronyddol y traddodiad deallusol hwnnw, a chynnig dathliad o'n credoau fel cenedl.","brand":"University of Wales Press","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":54223427141976,"sku":"9781783168804","price":19.99,"currency_code":"EUR","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0278\/1295\/4195\/files\/9781783168804_7d09c205-2392-4221-8a46-6e3d68cebe43.jpg?v=1770113718","url":"https:\/\/agendabookshop.com\/products\/credoaur-cymry","provider":"Agenda Bookshop","version":"1.0","type":"link"}