{"product_id":"cristnogaeth-a-gwyddoniaeth","title":"Cristnogaeth a Gwyddoniaeth","description":"Dyma'r unig ymdriniaeth ddiweddar yn y Gymraeg o rai o'r cwestiynau cymhleth a heriol a godir i ddiwinyddiaeth Gristnogol gan wyddoniaeth gyfoes: sut y gall diwinyddiaeth Gristnogol ymateb i'r ddealltwriaeth lawnach a dyfnach sydd gennym bellach am darddiad, datblygiad a phrosesau'r bydysawd? A all Cristnogion barhau i gyffesu yng ngeiriau'r Credo, 'Credwn yn Nuw, y Tad Hollalluog, Creawdwr nefoedd a daear'? Ac a fedrant goleddu'r Ffydd Apostolaidd a ddatguddiwyd drwy'r Ysgrythurau ac a gyffesir gan draddodiad Cristnogol y canrifoedd? Os gellir cyffesu'r ffydd hon o hyd, sut y mae ei dehongli heddiw, yn wyneb gwybodaeth gyfoes am darddiad y bydysawd, am siawns a chynllun, am Darwin a geneteg, am fiodechnoleg ac ecoleg? Mae deiliaid 'yr atheistiaeth newydd' yn honni nad yw cred mewn Duw yn bosibl  - cred sicr awduron y gyfrol hon, fodd bynnag, yw nad oes gwrthdaro rhwng Cristnogaeth a gwyddoniaeth, a bod dealltwriaeth o'r naill yn cyfoethogi'n dirnadaeth o gyfoeth y llall. Dwy ffenestr wahanol sydd yma i'n galluogi i edrych ar ryfeddod Duw, ar y bydysawd sy'n tarddu yn ei fwriad a'i egni creadigol, ac ar wyrth pob bywyd sy'n ddibynnol ar y bydysawd hwnnw.","brand":"University of Wales Press","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":54014756979032,"sku":null,"price":21.99,"currency_code":"EUR","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0278\/1295\/4195\/files\/9781786831262.jpg?v=1781149544","url":"https:\/\/agendabookshop.com\/products\/cristnogaeth-a-gwyddoniaeth","provider":"Agenda Bookshop","version":"1.0","type":"link"}