{"product_id":"diwinyddiaeth-paul","title":"Diwinyddiaeth Paul","description":"Cyflwynir yn y gyfrol hon holl syniadaeth athrawiaethol yr Apostol Paul a’i gefndir meddyliol mewn un bennod ar ddeg, ynghyd â swmp y farn ysgolheigaidd ddiweddaraf ar y pwnc. Trafodir perthynas  yr Apostol â Iesu; cefndir syniadol Paul; natur ei dröedigaeth a’i alwad apostolaidd, a’i ddealltwriaeth o natur y ddeddf Iddewig; ei syniadaeth am iachawdwriaeth a Pherson Crist; ei ddealltwriaeth o natur y bod dynol a gwaith yr Ysbryd ynddo ac arno; dysgeidiaeth foesegol yr Apostol; ei syniadaeth am yr eglwys; ei farn am eschatoleg a’r ‘Pethau Diwethaf’; a thrafodaeth ar gyfraniad y llythyrau yr amheir gan rai mai Paul oedd eu hawdur. Mae’r gyfrol yn unigryw fel yr ymdriniaeth lwyraf eto yn y Gymraeg ar y maes hwn; mae’n amlygu hefyd gyfraniad ysgolheigion o Gymry, yn arbennig C. H. Dodd a W. D. Davies, dau ysgolhaig Cymreig byd-eang eu dylanwad, i astudiaethau Paulaidd.","brand":"University of Wales Press","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":54223471051096,"sku":"9781786835321","price":22.99,"currency_code":"EUR","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0278\/1295\/4195\/files\/9781786835321_1e73b11d-2661-4c1d-a144-965e65917824.jpg?v=1764446418","url":"https:\/\/agendabookshop.com\/products\/diwinyddiaeth-paul","provider":"Agenda Bookshop","version":"1.0","type":"link"}