{"product_id":"dychmygu-iaith","title":"Dychmygu Iaith","description":"Mae astudiaethau niferus wedi archwilio delweddaeth beirdd drwy ac mewn iaith, hynny yw, y modd y defnyddiant iaith i greu delweddau, ond nid felly’r ddelweddaeth am iaith ei hunan. Nod y llyfr hwn yw craffu ar sut y mae casgliad o feirdd o bob cwr o’r byd wedi dychmygu a delweddu iaith, a hynny er mwyn ceisio goleuni newydd ar y cwestiwn hynafol: ‘Beth yw iaith?’\n\n\nGan mai yng nghyd-destun dathlu canmlwyddiant Gwasg Prifysgol Cymru yr ysgogwyd y llyfr, dewiswyd y testun gan ei fod yn gydnaws â dau o brif themâu cyhoeddiadau’r Wasg. Ar y naill law, mae'n dyfnhau ein dealltwriaeth o ddiwylliant ac iaith unigryw Cymru, ac ar y llall ehangu ein gwerthfawrogiad o ddiwylliant Ewrop a’r byd.\n\n\nMewn cyfuniad unigryw sy’n cwmpasu esiamplau o gerddi mewn ieithoedd dan fygythiad a rhai prif ffrwd, dyma lyfr sy’n ein hannog i ystyried o’r newydd gyfrwng yr ydym yn ei ddefnyddio’n feunyddiol.","brand":"University of Wales Press","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":54223374680408,"sku":"9781786839190","price":17.99,"currency_code":"EUR","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0278\/1295\/4195\/files\/9781786839190_940932aa-3e12-46e7-ab25-635c26690ead.jpg?v=1778506223","url":"https:\/\/agendabookshop.com\/products\/dychmygu-iaith","provider":"Agenda Bookshop","version":"1.0","type":"link"}