{"product_id":"dyddiadur-anne-frank","title":"Dyddiadur Anne Frank","description":"\u003cp\u003eGaned Anne yn Frankfurt am Main, Yr Almaen, yn 1929, ond oherwydd casineb cynyddol y Natsïaid tuag at Iddewon, penderfynodd Otto ac Edith Frank, rhieni Anne a’i chwaer Margot, ffoi i Amsterdam, Yr Iseldiroedd, yn 1933.\u003c\/p\u003e\n\n\u003cp\u003e \u003c\/p\u003e\n\n\u003cp\u003eYna, ar 6 Gorffennaf 1942, wedi i’r Natsïaid oresgyn y wlad, cuddiodd y teulu mewn rhandy dirgel uwchben swyddfa Otto Frank yng nghanol y ddinas. Ychydig wythnosau yn gynt, ar ei phen-blwydd yn 13 mlwydd oed, derbyniodd Anne ddyddiadur fel anrheg a chychwynodd ysgrifennu’i dyddiadur byd enwog.\u003c\/p\u003e\n\n\u003cp\u003e \u003c\/p\u003e\n\n\u003cp\u003eTrwy dudalennau’r gyfrol hon, a addaswyd i’r Gymraeg gan Eigra Lewis Roberts, down i adnabod yr Anne Frank go iawn, a rhannu’r gobeithion a’r ofnau, y profiadau a’r emosiynau, a gofnodwyd ganddi yn ystod y ddwy flynedd y bu hi a’i theulu’n cuddio rhag y Natsïaid.\u003c\/p\u003e","brand":"Gwasg Addysgol Cymru","offers":[{"title":"Default Product","offer_id":57533064544600,"sku":"9781899869015","price":21.99,"currency_code":"EUR","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0278\/1295\/4195\/files\/9781899869015.jpg?v=1781782281","url":"https:\/\/agendabookshop.com\/products\/dyddiadur-anne-frank","provider":"Agenda Bookshop","version":"1.0","type":"link"}