{"product_id":"griffith-davies","title":"Griffith Davies","description":"Dyma gyfrol sy’n croniclo bywyd a gwaith Griffith Davies (1788–1855), o’i blentyndod tlawd yn ardal chwareli Arfon i’w waith fel sefydlydd ysgolion mathemateg yn Llundain cyn gosod sylfaen i’r proffesiwn actiwari. Tri mis yn unig o addysg ffurfiol a dderbyniodd Davies, a dyna pryd y sylweddolwyd fod ganddo allu rhyfeddol mewn mathemateg. Mentrodd i Lundain, ac ar ôl blynyddoedd wedi ymroi i hunan ddysgu cyhoeddodd lyfrau mewn mathemateg, ac yn y pen draw fe’i penodwyd yn brif actiwari i gwmni yswiriant y Guardian yn y ddinas. Wrth i’w yrfa ddatblygu, daeth yn Gymrawd o’r Gymdeithas Frenhinol a derbyniodd glod ac anrhydeddau am ei waith. Bu’n weithgar ym mywyd Cymraeg Llundain gan sefydlu cyfres o ddarlithoedd gwyddonol yn ei famiaith, ac ymgyrchodd yn llwyddiannus dros hawliau tyddynwyr bro ei febyd a thros addysg i’w gyd-wladwyr. Mae hanes bywyd Griffith Davies yn stori sy’n ysbrydoli.","brand":"University of Wales Press","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":54238353162584,"sku":"9781837720316","price":21.99,"currency_code":"EUR","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0278\/1295\/4195\/files\/9781837720316_02f0bfc6-100a-46b2-b2d6-df406d773131.jpg?v=1778572830","url":"https:\/\/agendabookshop.com\/products\/griffith-davies","provider":"Agenda Bookshop","version":"1.0","type":"link"}