{"product_id":"hanes-cymry","title":"Hanes Cymry","description":"Mae'r gyfrol arloesol hon yn cyflawni dwy amcan. Yn gyntaf - ac am y tro cyntaf - mae'n cynnwys hanes lleiafrifoedd ethnig oddi mewn i'r diwylliant Cymraeg, a hynny o ddyddiau Macsen Wledig hyd heddiw. Yn ail, mae'n dehongli amlethnigrwydd o safbwynt Cymraeg yn hytrach na Saesneg, sy'n arwain at y cwestiwn, 'Pwy yw'r Cymry?' Yn ogystal a'r hanes cyffredinol, ceir penodau am y Sipsiwn Cymreig, Gwyddelod yng Nghymru, amlethnigrwydd cefn gwlad, y Cymry fel lleiafrif ethnig yn Lloegr, a hiliaeth yn erbyn pobl ddu. O ran ei syniadaeth, mae'r gyfrol yn neilltuol gyffrous, a thrafodir pethau mor amrywiol a chenedlaetholdeb a hil, perthynas y Cymry a threfedigaethedd a chaethwasiaeth, Saeson Cymraeg, gwleidyddiaeth iaith, ac amrywiaeth mewnol mewn diwylliannau lleiafrifol. Daw'r gyfrol i ben gan ofyn ai'r Cymry yw pobl frodorol Ynys Prydain. Mae'r cwbl yn rhan o brosiect ehangach yr awdur i geisio ailddehongli'r diwylliant Cymraeg o'i gwr.","brand":"University of Wales Press","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":54223427436888,"sku":"9781786836427","price":25.99,"currency_code":"EUR","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0278\/1295\/4195\/files\/9781786836427.jpg?v=1764446417","url":"https:\/\/agendabookshop.com\/products\/hanes-cymry","provider":"Agenda Bookshop","version":"1.0","type":"link"}