{"product_id":"llunio-hanes","title":"Llunio Hanes","description":"Mae’r gyfrol hon yn cynnwys casgliad o benodau gan nifer o haneswyr ac ysgolheigion sydd yn cyflwyno rhai o brif themâu a chysyniadau hanes. Gan ddwyn y teitl Llunio Hanes, mae’r gyfrol yn archwilio a chrynhoi’r gwahanol ffyrdd y mae haneswyr wedi ysgrifennu, ac yn parhau i ysgrifennu, hanes. Yn ei hanfod, dyma gyflwyniad i hanesyddiaeth – yr astudiaeth o ysgrifennu hanes – gyda’r nod o ymgynefino’r darllenydd ag ‘offer’ yr hanesydd, ac i esbonio’r fethodoleg y tu ôl i ddeongliadau hanesyddol. Mae’r awduron yn ein tywys ar hyd llinyn amser, gan dynnu ar agweddau Ewropeaidd a thu hwnt er mwyn olrhain datblygiad hanes fel disgyblaeth proffesiynol. Wrth archwilio hanes cenedlaethol, hanes Marcsaidd, hanes o’r gwaelod, hanes llafar, hanes menywod, hanes diwylliannol, ôl-strwythurol, y darostyngol a’r hollfydol, mae’r gyfrol yn ystyried sut y mae meysydd a disgyblaethau eraill yn dylanwadu ar grefft yr hanesydd.","brand":"University of Wales Press","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":54252013289816,"sku":"9781786838988","price":25.99,"currency_code":"EUR","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0278\/1295\/4195\/files\/9781786838988_132a26fa-47be-48aa-aa9b-1672305b345c.jpg?v=1778506266","url":"https:\/\/agendabookshop.com\/products\/llunio-hanes","provider":"Agenda Bookshop","version":"1.0","type":"link"}