{"product_id":"perfformior-genedl-ar-drywydd-hywel-teifi-edwards","title":"Perfformio'r Genedl","description":"Mae Perfformio'r Genedl yn gyfrol sy'n cloriannu a chydnabod cyfraniad Hywel Teifi Edwards i'r broses bwysig o ddiffinio anian ac athrylith perfformiadol cenedl y Cymry. Dyma ymgais arloesol i ddathlu cyfraniad Edwards i faes nas cloriannir yn benodol mewn un cyfraniad canolog ganddo, ond sydd yn brigo i'r wyneb drwyddi draw mewn ystod eang o'i weithiau unigol. Archwilir nifer o agweddau gwahanol ar waith y gellid ei uno o dan bennawd cyffredinol - sef astudiaeth o'r perfformiadol yng nghyd-destun twf cysyniad o hunaniaeth genedlaethol Cymru, o'r ddeunawfed ganrif hyd at y presennol. Mae'r gyfrol yn canoli ar themau amrywiol yng ngwaith Edwards, megis Pasiant Cenedlaethol Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol, traddodiadau'r Orsedd,  y drafodaeth o ddramau cynnar y mudiad drama, a'r dogfennu ar weithgaredd cwmniau drama amatur. Dadleuir bod modd cysylltu'r amryw themau yn ei waith a'u trafod yng nghyd-destun astudiaeth o'r anian perfformiadol yng nghyfansoddiad y Cymry.","brand":"University of Wales Press","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":49831356006744,"sku":"9781786830340","price":13.99,"currency_code":"EUR","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0278\/1295\/4195\/files\/9781786830340_db6710fd-9732-4b74-b91c-444aa2dbe3d0.jpg?v=1777086052","url":"https:\/\/agendabookshop.com\/products\/perfformior-genedl-ar-drywydd-hywel-teifi-edwards","provider":"Agenda Bookshop","version":"1.0","type":"link"}