{"product_id":"sylfeini-cyfieithu-testun","title":"Sylfeini Cyfieithu Testun","description":"Mae’r gyfrol hon yn tywys cyfieithwyr newydd a’r rhai sydd â’u bryd ar weithio yn y maes trwy brif egwyddorion llunio cyfieithiad da. Mae’n trafod gwaith cyfieithwyr o safbwynt diogelu lle’r iaith yn y gymdeithas, yn egluro beth sydd ei angen ar ddarpar gyfieithwyr o ran sgiliau a gwybodaeth, ac yn dangos y gwych a’r gwachul er mwyn cynorthwyo cyfieithwyr i lunio gwaith da heb y llediaith a’r cyfieithu lletchwith. Mae’n taflu goleuni ar yr amryfal dechnegau y mae cyfieithwyr cymwys yn eu defnyddio, o’r broses ddarllen hyd at y broses adolygu, ac mae’n gwneud hynny trwy enghreifftiau o gyfieithiadau go iawn a gyhoeddwyd. Mae’n trafod cyfieithu peirianyddol, dyfodol y proffesiwn a sut i wneud y defnydd gorau o’r dechnoleg ddiweddaraf. Mae ymchwil academaidd hefyd yn elfen gref o’r gwaith, ac mae’r cyngor a’r canllawiau yn seiliedig ar yr ysgolheictod trylwyraf ynghyd â phrofiad yr awdur o’r byd cyfieithu proffesiynol.","brand":"University of Wales Press","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":54226405097816,"sku":"9781786838155","price":31.99,"currency_code":"EUR","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0278\/1295\/4195\/files\/9781786838155.jpg?v=1778510731","url":"https:\/\/agendabookshop.com\/products\/sylfeini-cyfieithu-testun","provider":"Agenda Bookshop","version":"1.0","type":"link"}