{"product_id":"trawsffurfior-seintiau-llawysgrif-yale-o-fucheddaur-saint","title":"Trawsffurfio’r Seintiau","description":"Yn anaml iawn y daw ffynonellau newydd ar gyfer y Gymru ganoloesol gynnar i’r amlwg. Ond dyma a geir yn llawysgrif Yale, Llyfrgell Beinecke, Osborn fb229 – llawysgrif modern cynnar sy’n drysorfa o destunau hagiograffaidd. Ei thrysor mwyaf yw ei fersiwn unigryw o Fuchedd Cybi, a all gynnwys elfennau mor gynnar â’r ddegfed neu’r unfed ganrif ar ddeg, gan gyflwyno tystiolaeth gwbl newydd am Gybi a’i gwlt canoloesol. Nid am ei chopi o Fuchedd Cybi yn unig y mae’r gyfrol hon yn arwyddocaol. Fe ddengys yn ogystal sut yr aethpwyd ati i addasu gweithiau megis Buchedd Beuno a Buchedd Collen yn yr Oesoedd Canol diweddar a’r cyfnod modern cynnar; tystia i weithgarwch rhwydweithiau Catholig ac unigolion megis Edward Morgan o Lys Bedydd, offeiriad Catholig a greodd y cyfieithiad unigryw o Fuchedd Gwenfrewy yn y llawysgrif hon, ac a ddienyddiwyd maes o law. Diogelwyd y testunau hyn oll gan ysgrifydd amryddawn y llyfr, Robert Davies o Wysanau, Sir y Fflint, a chawn gyflwyniad i’w fywyd, ei weithgarwch a’i ddiddordebau eang.","brand":"University of Wales Press","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":49712204480856,"sku":"9781837721207","price":31.99,"currency_code":"EUR","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0278\/1295\/4195\/files\/9781837721207.jpg?v=1782736248","url":"https:\/\/agendabookshop.com\/products\/trawsffurfior-seintiau-llawysgrif-yale-o-fucheddaur-saint","provider":"Agenda Bookshop","version":"1.0","type":"link"}