{"product_id":"trysorau-casgliadau-arbennig-prifysgol-cymru-y-drindod-dewi-sant","title":"Trysorau: Casgliadau Arbennig Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant","description":"Sefydlwyd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn wreiddiol yn 1822 dan yr enw Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, a dyma’r sefydliad colegol addysg uwch hynaf yng Nghymru. Yn ystod dau gan mlynedd ei hanes, mae wedi derbyn nifer o lawysgrifau hynod a phrin, llyfrau printiedig cynnar, cyfrolau llawn darluniau, ac enghreifftiau anarferol o daflenni i gyfnodolion – y rhan fwyaf drwy roddion hael nifer o gymwynaswyr, yn cynnwys sylfaenydd y sefydliad, yr Esgob Thomas Burgess o Dyddewi. Cedwir y casgliad heddiw yn Llyfrgell Roderic Bowen ar gampws y Brifysgol yn Llanbedr Pont Steffan, yn adnodd cyfoethog i ysgolheigion ac ymchwilwyr ledled y byd.\n\n\n\nMae’r gyfrol lawn darluniau hon yn cyflwyno detholiad o blith y miloedd o drysorau sydd yn y casgliad, yn rhychwantu dros saith can mlynedd. Ceir ysgrif fer i gyd-fynd â phob darlun, pob un wedi’i hysgrifennu gan ysgolhaig sydd â gwybodaeth a gwerthfawrogiad dihafal o’r gwaith dan sylw. Bydd y gyfrol o ddiddordeb eang, ac yn dyst i’r cyfoeth a geir yn yr hyn a alwyd unwaith yn ‘llyfrgell fach fwyaf Cymru’.","brand":"University of Wales Press","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":54251989434712,"sku":"9781786839251","price":21.99,"currency_code":"EUR","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0278\/1295\/4195\/files\/9781786839251_f03b049a-369e-4145-a44f-b2558d8551a9.jpg?v=1767679246","url":"https:\/\/agendabookshop.com\/products\/trysorau-casgliadau-arbennig-prifysgol-cymru-y-drindod-dewi-sant","provider":"Agenda Bookshop","version":"1.0","type":"link"}