{"product_id":"williams-pantycelyn","title":"Williams Pantycelyn","description":"Un o gyfrolau mwyaf dadleuol yr ugeinfed ganrif yw Williams Pantycelyn gan Saunders Lewis, ac ymhlith yr astudiaethau beirniadol mwyaf cynhyrfus i ymddangos erioed yn y Gymraeg. Cynigiodd y gyfrol ffordd newydd i ddehongli athrylith yr emynydd o Bantycelyn, a thrwy hynny sefydlu enw Saunders Lewis fel beirniad mwyaf beiddgar a chreadigol ei genhedlaeth. Er mwyn nodi trichanmlwyddiant geni'r emynydd yn 2017, mae Gwasg Prifysgol Cymru yn ailgyhoeddi'r gyfrol; mewn rhagymadrodd helaeth i'r cyhoeddiad newydd, mae D. Densil Morgan yn dadansoddi cynnwys y gwaith, ei dafoli'n feirniadol ac yn olrhain ei ddylanwad ar y meddwl Cymreig o'i gyhoeddi yn 1927 hyd heddiw. Mae'n ddathliad deublyg o greadigrwydd Saunders Lewis ac o gyfraniad aruthrol y Per Ganiedydd i waddol y diwylliant cenedlaethol.","brand":"University of Wales Press","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":54013013983576,"sku":null,"price":31.99,"currency_code":"EUR","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0278\/1295\/4195\/files\/9781783169627_30166a32-ea05-406a-a4de-713c0c22629f.jpg?v=1780024548","url":"https:\/\/agendabookshop.com\/products\/williams-pantycelyn","provider":"Agenda Bookshop","version":"1.0","type":"link"}