{"product_id":"y-gelfyddyd-gymodlawn","title":"Y Gelfyddyd Gymodlawn","description":"Mae’r gyfrol hon yn mynd i’r afael â gwaith T. Gwynn Jones (1871–1949), un o brif feirdd Cymraeg yr ugeinfed ganrif, gan ganolbwyntio’n benodol ar berthynas ei waith â cherddoriaeth. Roedd T. Gwynn Jones yn fardd dylanwadol a thoreithiog, a derbyniodd gryn sylw beirniadol a bywgraffyddol – ond dyma’r drafodaeth gyntaf ar ei waith mewn cyd-destun cerddorol. Fel yr astudiaeth gyntaf o’i math ym maes llenyddiaeth Gymraeg, mae’r llyfr yn gyflwyniad cyffrous i astudiaethau cerddo-lenyddol. Mae’n craffu ar ddylanwad cerddoriaeth ar waith T. Gwynn Jones: cefndir cerddorol rhai o gerddi Caniadau; y rhai cannoedd o gyfieithiadau o eiriau caneuon; ymwneud y bardd â cherddoriaeth draddodiadol; a’r cydweithio helaeth fu rhyngddo a W. S. Gwynn Williams, sylfaenydd Cwmni Cyhoeddi Gwynn. Mae’r gyfrol yn ymdrin â thestunau cyfarwydd ac anghyfarwydd, ac yn cynnig gwedd gwbl newydd ar waith bardd cyfarwydd. ","brand":"University of Wales Press","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":55548273721688,"sku":"9781837723324","price":25.99,"currency_code":"EUR","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0278\/1295\/4195\/files\/9781837723324.jpg?v=1777986923","url":"https:\/\/agendabookshop.com\/products\/y-gelfyddyd-gymodlawn","provider":"Agenda Bookshop","version":"1.0","type":"link"}