Geirfâur Fflyd, 1632-1633: Casgliad John Jones, Gellilyfdy o eiriau''r cartref, crefftau, amaeth a byd natur
Welsh
By (author): Ann Parry Owen
Mae John Jones, Gellilyfdy, sir y Fflint (c.15801658) yn enwog fel ysgrifydd medrus a dibynadwy a gopïodd nifer helaeth o destunau canoloesol, mewn llaw galigraffig hardd. Mae ei gopïau o farddoniaeth a rhyddiaith ganoloesol yn arbennig o werthfawr ir ysgolhaig Cymraeg, gan nad yw ei ffynonellaun aml wedi goroesi. Ond nid copïwr yn unig oedd John Jones. Pan oedd yng ngharchar y Fflyd yn Llundain yn ystod y 1630au cynnar, cynhyrchodd restrau o dros 7,000 o eiriau wedi eu trefnun thematig dan 130 o benawdau, gan eu cofnodin daclus mewn tair llawysgrif. Maer geirfâu hyn, a gyhoeddir yma am y tro cyntaf, yn cynnwys geiriau am sawl agwedd ar fywyd bob dydd: y t ai gynnwys; crefftwyr traddodiadol au hoffer; dyn, ei gorff ai afiechydon, ar gemau ar chwaraeon ai difyrrai; a byd natur, gan gynnwys rhestrau maith o enwau coed, llysiau, pysgod ac adar. Rhydd y geirfâu gipolwg gwerthfawr i ni ar fywyd ac iaith gr bonheddig o sir y Fflint ar ddechraur ail ganrif ar bymtheg, yn ogystal ag ychwanegun fawr at eirfa Gymraeg hysbys y cyfnod.
See more
Current price
€28.28
Original price
€32.50
Delivery/Collection within 10-20 working days