Gras, Gobaith a Gogoniant: Crefydd ac Ysbrydolrwydd yng ngwaith Emrys ap Iwan
Welsh
By (author): D. Densil Morgan
Un o dadau cenedlaetholdeb modern yw Emrys ap Iwan (18481906), y pregethwr Methodist o Ddyffryn Clwyd. Hon ywr gyfrol gyntaf arno syn dadansoddin fanwl seiliau beiblaidd a chrefyddol ei weledigaeth. Maen cloriannu ei gefndir ai fagwraeth, ei addysg yng Ngholeg y Bala ac ar y cyfandir, y dylanwadau Ewropeaidd arno, ar modd yr aeth ati i ddwyn perswâd ar ei gyfoeswyr i ymwrthod âr bydolwg Prydeinig a Seisnig. Ceir yn ei homilïau athrawiaeth Gristnogol aeddfed a gwâr, wedii mynegi mewn Cymraeg rhywiog ac yn gyfraniad arhosol i feddwl y genedl; maer cysyniadau o ras, gobaith a gogoniant yn cael lle blaenllaw. Yn ogystal thrafod ei gyd-destun hanesyddol, maer gyfrol hefyd yn tanlinellu gwreiddioldeb gwaith Emrys ac yn pwysleisioi berthnasedd ir Gymru gyfoes.
See more
Current price
€19.79
Original price
€21.99
Delivery/Collection within 10-20 working days