Medeia
Trasiedi Roegaidd sy'n portreadu cymeriadau ac emosiynau mewn tyndra eithafol yw Medeia. Mae'r ffigwr mytholegol Medeia hithaun wyres i'r haul, yn ddewines yn syrthio mewn cariad efo Iason ac yn defnyddio'i hud i'w gynorthwyo i gyflawni tasgau goruwchnaturiol. Mae'r canlyniadau, yn anorfod, yn drasig. Ond mae'r ddrama hon yn fwy na thrasiedi am ddial arbennig o waedlyd. Mae'n archwilio'r erchyllterau sy'n digwydd o ganlyniad ymgais meidrolyn, a rhywun sydd heb fod yn feidrol, i gyd-fyw mewn byd sy'n gyffredin i'r ddau ohonynt gan edrych ar 'Sut y gall nwyd merch (ddwyfol) gyd-fyw â rhesymeg dyn'. Mae'r ddrama hefyd yn edrych ar y modd y mae Medeia yn agored i gael ei chlwyfo gan frad dynol. Fel y nodir yn y cyflwyniad i'r ddrama am Euripedes, 'Prin yw'r dramâu sy'n dangos yn fwy eglur ddyfnder y cymeriadu, ffyrnigrwydd y sefyllfa a'r arddull gythryblus sydd mor nodweddiadol o'i waith.' I ni heddiw mae'r ddrama fer hon hefyd yn codi cwestiynau ynghylch twyll a bod yn driw i chi eich hun, ac mae modd hefyd i gynulleidfa fodern ei dehongli o safbwynt edrych ar rôl merched a dynion, a chroesdynnu hiliol.
See more
Current price
€11.39
Original price
€11.99
Delivery/Collection within 10-20 working days